Dafydd Iwan
Cefndir
Ffeithiau
Fe'i ganwyd ar Awst 24ain, 1943, yn ail fab i'r diweddar Barchedig Gerallt Jones ac Elizabeth Jones. Mae ganddo dri brawd: Arthur Morus ac Alun Ffred a'r diweddar Huw Ceredig. Fe'i ganwyd ym Mrynaman, a bu'n byw yn Llanuwchllyn, Gwyddgrug (Pencader), Caerdydd a Phenarth cyn symud i Lanystumdwy a'r Waunfawr cyn setlo yn ei gartref presennol yn Rhos-bach, Caeathro, ger Caernarfon, lle mae'n byw gyda Bethan ers 1988.
Yn briod a Bethan sy'n enedigol o Garnfadryn, mae ganddyn nhw ddau fab: Caio, a fu'n newyddiadurwr ar bapur y South Wales Argus cyn mynd yn rhan o dim Cymru Fyw y BBC, a Celt, sydd wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth mewn Rheolaeth Busnes, ac sy'n gweithio fel dylunydd graffeg i gwmni Manchester United.
Plant o'i briodas gyntaf: Mae Llion yn awdur, cynhyrchydd teledu a ffilm gyda Cwmni Da, Caernarfon. Mae Elliw yn gweithio i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Telor yn gynhyrchydd newyddion i BBC Cymru.
Manylion Personol
Dr. Dafydd Iwan B.Arch., LL.D.
Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr cwmni Sain (Recordiau) Cyf., Cyhoeddiadau Sain a chwmni annibynnol Awenydd Cyf.
-
Ymddiriedolwr, Ymddiriedolaeth Clough Williams Ellis , Portmeirion
-
Ymddiriedolwr Age Cymru Gwynedd a Mon
-
Doethur yn y Cyfreithiau er Anrhydedd, Prifysgol Cymru
-
Aelod er Anrhydedd, Gorsedd y Beirdd
-
Cymrawd Prifysgolion Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd
-
Cadeirydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn
Cyfrifoldebau eraill:
-
Ysgrifennydd Cymdeithas Tai Gwynedd (elusen)
-
Pregethwr cynorthwyol
-
Aelod a Blaenor yng Nghapel a Chanolfan Caeathro
Gwleidyddol ac arall:
-
Cyn-Lywydd Plaid Cymru.
-
Cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
-
Aelod Amnest Rhyngwladol
-
Un o aelodau gwreiddiol Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn, ac Antur Waunfawr
DISCOGRAFFEG
Recordiau sengl ac EP ar label Welsh Teldisc:
(gydag Edward Morus Jones)
1966 (TEP 861) Wrth Feddwl am fy Nghymru / Wyt ti'n cofio? / Bryniau Bro Afallon / Meddwl amdanat ti
1966 (TEP 864) Mae'n wlad imi / Ji Geffyl bach / Crwydro / Mae'r esgid fach yn gwasgu
1967 (TEP 865) Rwy'n gweld y dydd / Beth yw'r haf imi? / Hyn sydd yn ofid im / Stol i ddau
1967 (TEP 866) Clyw fy nghri / Mae geneth fach yng Nghymru / Rhaid yw dal yn ffyddlon / Paid a chwarae efo'm serch / Tyrd yn ddi-oed
1967 (TEP 867) Can yr ysgol / Chwarae a nghalon / Pan glywaf gan y clychau / Trwy'r drysni a'r anialwch
1968 (TEP 868) Daw, fe ddaw yr awr / Sion a Sian / Can y ddinas
1968 (TEP 871) Can y medd / Tri mis o ddathlu mawr / Can y glowr / Sam
1968 (TEP 875) A chofiwn ei eni ef / Mair paid ag wylo mwy / Seinier cyrn a chaner clych / Nos ym Methlehem
1969 (WD 913) Carlo / Y dyn pwysig
1969 (WD 914) Croeso Chwedeg Nain /Gad fi'n llonydd
Ar label SAIN:
1969 (SAIN 2) Myn Duw, mi a wn y daw / Mari fawr Trelech / Ai am fod haul yn machlud?
1970 (SAIN 7) Peintio'r byd yn wyrdd / Mae 'na le yn ty ni / Yma mae nghalon / Mr. Tomos, os gwelwch chi'n dda
1971 (SAIN 18) Pam fod eira yn wyn / Weli di Gymru? / Can y Western Mail, I'r gad
1972 (SAIN 26) Gorau Cymro, Cymro oddi cartref / Yno yr wylodd efe
1972 (SAIN C509/1009) Wrth feddwl am fy Nghymru / Daw fe ddaw yr awr yn ol imi / Mae geneth fach yng Nghymru / Croeso Chwedeg Nain / Beth yw'rhaf imi? / Can y medd / Ji geffyl bach / Hyn sydd yn ofid im / Can y glowr / Can yr ysgol / Gad fi'n llonydd / Rwy'n gweld y dydd
1973 (SAIN 37) Tywysog Tangnefedd / Mae hiraeth yn fy nghalon / Y Steddfod beiling / Mae'r llencyn yn y jel.
1976 (SAIN C545 /1045D) Mae'r darnau yn disgyn i'w lle / Dos f'anwylyd / Mae prydferthwch ail i Eden / Dewch i lan y mor / Siarad a ti a mi / Mae rhywun yn y carchar / Baled yr eneth eithafol / Dacw nghariad / Merch y mynydd / Mynd yn ol / Cyn delwyf i Gymru'n ol / Dim ond un gan yn awr sydd ar ol.
1977 (SAIN C708G/1108) "Carlo a chaneuon eraill, gydag Edward" Carlo / Bryniau Bro Afallon / Sam / Can y ddinas / Crwydro / Meddwl amdanat ti / Mae'n wlad imi / Y dyn pwysig / Mae'r esgid fach yn gwasgu / Wyt ti'n cofio? / Chwarae a nghalon / Trwy'r drysni a'r anialwch / Sion a Sian / Clyw fy nghri
1977 (SAIN C709G/1109) "I'r Gad, casgliad o senglau ac EP Sain") Mae na le yn ty ni / Ai am fod haul yn machlud / Can y Western Mail / Tywysog Tangnefedd / Mae'r llencyn yn y jel / Peintio'r byd yn wyrdd / Yma ma nghalon / Pam fod eira'n wyn / Y Steddfod beiling / Myn Duw mi a wn y daw , Mr. Tomos,os gwelwch yn dda / Mae hiraeth yn fy nghalon / Weli di Gymru? / I'r gad.
1979 (SAIN C750N/1150) "Bod yn rhydd" Weithiau bydd y fflam / Can Victor Jara / Santiana / Teg oedd yr awel / Mari Malw / Bod yn rhydd / Baled y Welsh Not / Peidiwch gofyn imi ddangos fy ochr / Penillion i Gilmeri / Mae'n disgwyl / Hwyr brynhawn.
1980 (SAIN 86S) Magi Thatcher / Sul y blodau
1981 (SAIN C817N/1217) "Dafydd Iwan ar dan" (Traciau byw gyda Hefin Elis a Tudur Huws Jones): A gwn fod popeth yn iawn / Teg oedd yr awel / Ac fe ganon ni / Parodi 'Eifionydd' / Magi Thatcher / Mae rhywun yn y carchar / Y dref a gerais i cyd / Pam fod eira yn wyn / Am na ches i wadd i'r briodas / Parodi 'Hon' / Can serch i awyren ryfel / Y pedwar cae / Bod yn rhydd / Can Victor Jara / Yr hawl i fyw mewn hedd.
1982 (SAIN C95S) (gydag Ar Log) Cerddwn ymlaen / Y gelynnen
1982 (SAIN 852N/1252M) (gydag Ar Log) Dail y teim / Maen nhw'n paratoi at ryfel / Abergenni / Y blewyd gwyn / Y pedwar cae / Dechrau'r dyfodol / Ciosg Talysarn / Y dref a gerais i cyd / Heol y Felin/Ilffracwm / Lleucu Llwyd / Cerddwn ymlaen
1983 (SAIN C875/1275) "Yma o Hyd" (gydag Ar Log) Y wen na phyla amser / Cwmffynnon ddu / Adlais y gog lwydlas / Tra bo hedydd / Laura Llywelyn / Ffidil yn y to / Hoffedd Gwilym + / Can Wiliam / Can y medd / Per oslef /Ychwe chant a naw / Yma o hyd.
1986 (SAIN C985N/1385M) "Gwinllan a Roddwyd (I gofio'r Tri)" Hawl i fyw / Os na fydd na Gymru yfory / Cwyngan y Sais / Mi glywaf y llais /Gwinllan a roddwyd / Draw dros y don / Can i DJ / Mae'r Saesneg yn esensial, Yr hen hen hiraeth / Can Lewis Valentine / Gweddi dros Gymru.
1988 (SAIN SCD 8085): Cryno-ddisg yn cyfuno Bod yn Rhydd (750) a Gwinllan a Roddwyd (985)
1990 (SAIN C453 / SCD4053) "Dal i Gredu" Draw, draw ymhell / Fel yna mae hi wedi bod erioed / Can Angharad / Oscar Romero /Esgair Llyn / Can Mandela / Dal i gredu / Can i Helen / Can yr Aborijini / Awel yr Wylfa /Doctor Alan / Can y fam / Yr Anthem Geltaidd.
1993 (SAIN SCD 2062): "Caneuon Gwerin": Moliannwn / Ar lan y mor / Y ferch o blwy Penderyn / Titrwm tatrwm / Fe drawodd yn fy meddwl / Mynwent eglwys / Harbwr Corc.Fflat Huw Puw / Rownd yr Horn / Y deryn pur / Ffarwel fo i dre Porthmadog / Si hei lwli / Bugeilio'rgwenith gwyn / Paid a deud / Trwy'r drysni a'r anialwch / Ffarwel i blwy Llangywer / Beth yw'rhaf imi? / Mae prydferthwch ail i Eden / Dacw nghariad i lawr yn y berllan / Cyn delwyf i Gymru'n ol / Mari fach / Santiana
1995 (SAIN SCD 2097): "Can Celt": I ble'r aeth haul dy chwerthin? / Symudwch y bobol / Daw fe ddaw yr awr / Can y glowr / Peintio'r byd yn wyrdd / Pam fod eira'n wyn / Dyn oedd yr Iesu / Gad fi'n llonydd / Tywysog Tangnefedd / Shili-ga-bwd /Daeth y llwch yn ol / Dal i ganu Yma o hyd / Y Garreg wen / Cana gan fy Nghymru / Rhywbryd fel nawr / Torri'r cylch o drais / Awel yr Wylfa / Doctor Alan / Can y fam / Yr Anthem Geltaidd
1998 (SAIN SCD 2180): " Y Dafydd Iwan Cynnar" (2xCD) 39 o ganeuon y 60au a'r 70au ar CD am y tro cyntaf
2006 (SAIN SCD 2400): "Goreuon Dafydd Iwan" (20 trac)
2007 (SAIN SCD 2576): "Man Gwyn" Ar y Mimosa / Can Michael D. Jones / Tyred f'anwylyd / Porth Madryn / Y Rheilffordd gyntaf / Tua Cwm Hyfryd / Can y ddwy chwarel / Ynys Ellis / Y Cymro a'r aur / Hollywood / Baled Joe Hill / Merch y breuddwydion / Hwiangerdd Corsica / Yr ynys / Daeth yr awr, daeth y dyn (i Gwynfor Evans)
2009 (SAIN SCD 2600) : "Dos i ganu" : Dos i ganu / Tyrd, aros am funud / Mae gen i f'egwyddorion / Mae Cymru'n mynnu byw / Mwstasho y Gaucho / Cana dy gan / Can y milwr / Cysura fi / Ambell i gan / Angor / Amserr maith yn ol
2012 (SAIN SCD 2675): Bocset o 219 o draciau Dafydd Iwan ar 12 Cryno-Ddisg, yn cynnwys rhai traciau bonws na fu ar CD o'r blaen.
2015 (SAIN SCD 2737): Emynau: Gwahoddiad (Mi glywaf dyner lais)/ Saron (Ni fethodd gweddi daer erioed) / Navarre (Cyfamod hedd)/ Lausanne (Pwy a'm dwg) / Ellers (Pan fwyf yn teimlo'n unig)/ Wilton Square (O'th flaen O Dduw rwy'n dyfod)/Agnus Dei (Dof fel yr wyf)/ Hen Ddarbi (O arwain fy enaid i'r dyfroedd)/ Pererin wyf (Amazing Grace) / Berwyn (Tyrd atom ni)/ Dim ond Iesu / St. Bees (Cymer Arglwydd f'einioes i) / Theodora (Gwawr wedi hirnos) / Bydd canu yn y nefoedd
-